Ym mlog y mis hwn, mae Dr Hilary Williams, is-lywydd RCP Cymru yn trafod canfyddiadau adolygiad dysgu annibynnol Cronfa’r Brenin, gofal mewn coridorau a phwysigrwydd trafodaeth broffesiynol a pharchus.
Trist nodi ei bod yn ymddangos bod gofal mewn coridorau wedi dod yn nodwedd barhaol mewn ysbytai yng Nghymru. Yn gynharach yn ystod yr haf eleni, cyhoeddodd ein cydweithwyr yn y Coleg Nyrsio Brenhinol adroddiad gwych iawn am hyn, ac maent bellach wedi estyn gwahoddiad i mi ymuno â nhw mewn cyfarfod bord gron i drafod datrysiadau. Mae’n hawdd iawn teimlo’n aneffeithiol pan fyddwch yng nghanol hyn i gyd, felly er mwyn paratoi, siaradais â rhai cydweithwyr ar draws Cymru er mwyn casglu syniadau.
Dywedodd pawb wrthyf, o gofrestryddion meddygol i nyrsys uwch, y dylai cynnig gofal mewn coridor fod yn ‘ddigwyddiad byth’. Mae ei alw’n ‘fyrddio’ neu ‘ofal mewn cadair’ – neu yn wir, unrhyw beth arall – yn annerbyniol. Mae cuddio’r rhifau y tu ôl i enw gwahanol yn annerbyniol.
Dywedodd Dr Chris Subbe, arbenigwr gwella ansawdd a meddyg gofal aciwt yng ngogledd Cymru wrthyf: ‘Mae angen i ni optimeiddio trefniadau rheoli gwelyau, symud ein cleifion cyn lleied ag y bo modd, optimeiddio trefniadau cylchdroi meddygon er mwyn cynyddu dilyniant ac effeithlonrwydd wardiau, ac osgoi cael gwahanol feddyg bob dydd’.
Gan feddygon yng nghamau cynnar eu gyrfa, clywais bod meddygon ar bob gradd ac ym mhob cyfnod o’u gyrfa yn symud o gwmpas yn barhaus, gan beri risgiau wrth drosglwyddo, lleihau ymreolaeth a’r gallu i wneud penderfyniadau, ac arwain at ddiffyg trosolwg ar gyfer taith y claf.
Mae clinigwyr yn arwain newid o fewn y gwasanaeth. Ceir cymaint o enghreifftiau gwych, ond roedd dysgu am integreiddio gofal cymunedol ac aciwt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ystod ein hymweliad Cyswllt yn ddiweddar wedi gwneud cryn argraff arnaf. Mae llawer i’w ddysgu gan y gwasanaeth eiddilwch yn Llwyn Helyg hefyd.
Rydw i’n gobeithio bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gwrando. Rydym wedi ymrwymo i gydweithio i ganfod ffyrdd ymarferol o gynorthwyo hyfforddiant a datblygu gweithlu cynaliadwy a hynod o fedrus ar gyfer ein ysbytai llai yng nghefn gwlad Cymru.
Rydw i’n meddwl o hyd am yr holl dimau sy’n ceisio helpu cleifion eiddil a sâl sy’n eistedd mewn cadeiriau, cypyrddau a choridorau yng Nghymru y funud hon. Sut allwn ni drafod ‘yr hyn sy’n bwysig’ a helpu cleifion i wneud rhai o’r dewisiadau pwysicaf y byddant fyth yn gorfod eu gwneud yn ystod wythnosau olaf eu hoes os bydd eu gofal clinigol wedi’i gyfyngu i goridor?
Y mis hwn, cyhoeddwyd adroddiad gan Marie Curie a oedd wedi darganfod bod y cyfle i fanteisio ar ofal diwedd oes a lliniarol o ansawdd uchel yn fylchog, yn anghyson ac yn annheg.(Gallwch ddarllen ymateb RCP yma.) Roedd yr adroddiad hwn yn teimlo’n real iawn ac roedd lleisiau’r cleifion a theuluoedd yn rhai cyfarwydd iawn i mi.
Adfer ymddiriedaeth gyda’n haelodau
Bellach, cyhoeddwyd adolygiad dysgu annibynnol Cronfa’r Brenin ynghylch y digwyddiadau a oedd yn gysylltiedig â chyfarfod cyffredinol eithriadol RCP ynghylch rôl cymdeithion meddygol. Mae’n ddigon i’ch sobri ac rydym wedi derbyn y canfyddiadau a’r argymhellion yn llawn.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae RCP wedi siomi ei aelodau. Rydw i’n hollol ffyddiog y gallwn ddatblygu a thyfu i fod yn sefydliad mwy hyblyg, tryloyw a modern. Ond bydd hyn yn gofyn am wir waith tîm, gwaith caled ac ymrwymiad. Nid yw atebion sydyn a llwyddiannau sydyn yn ddigon.
Rydym eisoes wedi clywed bod Cyngor RCP yn dychwelyd i’w le dilys fel fforwm cadarnhaol ar gyfer trafodaeth broffesiynol a pharchus. Mae’r coleg yn dechrau teimlo’n fwy cynhwysol, gan geisio safbwyntiau a phryderon ystod ehangach o aelodau, o’n cymrodorion hŷn i feddygon sydd newydd gymhwyso. Rydw i’n falch o’r cysylltiadau agos sydd rhyngom yng Nghymru, a mawr obeithiaf y gallwn rannu ein dysgu gyda rhannau eraill o’r coleg.
Ac yn olaf …
Bu’n wythnos hynod o brysur yn RCP, ond un o’m huchafbwyntiau oedd treulio amser gyda rhai cymrodorion hŷn arbennig. Roedd darlith Samuel Gee yn ystod y cyfarfod cyffredinol blynyddol eleni wedi gwneud argraff ddofn arnaf. Soniodd Athro Catherine Mummery, athro niwroleg yng Ngholeg Prifysgol Llundain, am ‘Oes newydd i glefyd Alzheimer – trawsnewid gobaith yn effaith’. Bu’r drafodaeth ddilynol yn wych. Onid hyn y dylem fod yn ei wneud yn RCP: cynnal trafodaethau gwerthfawr, heriol ac arbenigol?
Cymer ofal.