Blog

28/05/25

28 May 2025

Adroddiad y Grŵp Cynghori Gweinidogol (MAG) ar Berfformiad a Chynhyrchiant GIG Cymru

Medical Team In Hospital

Cafodd y Grŵp Cynghori Gweinidogol (MAG) ei sefydlu fis Hydref diwethaf gan ysgrifennydd y cabinet dros iechyd a gofal cymdeithasol i gynnal adolygiad annibynnol o berfformiad a chynhyrchiant yn GIG Cymru. Y llynedd, roedd cleifion yng Nghymru’n wynebu rhestrau aros hwy nag erioed o’r blaen, gyda rhai’n aros dros 2 flynedd am driniaeth. Mewn cyferbyniad, mae amseroedd aros tebyg wedi cael eu dileu fwy neu lai yn Lloegr. Chwe mis yn ddiweddarach, cyhoeddodd y Grŵp Cynghori Gweinidogol ei argymhellion ar wella perfformiad a chynhyrchiant mewn gofal a gynlluniwyd, diagnosteg, canser a gwasanaethau gofal brys ac argyfwng.

Mae’r argymhellion yn tynnu sylw’n briodol at faterion brys mewn gwasanaethau aciwt ac roeddem yn arbennig o falch o weld amserlen i’w gweithredu yn ystod y 3-6 mis nesaf. Mae ein hymateb yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod adnoddau ac amser staff ar gael i gyflawni’r adroddiad uchelgeisiol hwn.

Datganiad sefyllfa Coleg Brenhinol y Meddygon

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon wedi cyhoeddi datganiad sefyllfa ar y Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes) sy’n mynd drwy San Steffan.

Fy rôl newydd fel is-lywydd clinigol 

Roeddwn i’n falch iawn o gael fy ethol yn is-lywydd clinigol ar gyfer Coleg Brenhinol y Meddygon. Fel sefydliad aelodaeth, rydw i wir yn gobeithio adeiladu ar ein dull gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys ein haelodau yn y gwaith o ddatblygu polisïau a datblygu cysylltiad cryf â nhw ledled y DU ac yn fyd-eang.

Byddaf yn dechrau yn fy rôl newydd fel is-lywydd clinigol ym mis Awst 2025 a bydd etholiad ar gyfer is-lywydd newydd i Gymru. Bydd Cyngor Coleg Brenhinol y Meddygon yn cymeradwyo ac yn cyfleu’r trefniadau etholiadol a’r amserlen ar gyfer hynny cyn gynted â phosibl, ond am y tro, byddaf yn parhau yn y swydd. Rwy’n siŵr y bydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth a bydd gan Is-lywydd nesaf Cymru sylfaen gref i adeiladu arni.

Ein harolwg meddygon

Nodyn i’ch atgoffa os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny i rannu eich dirnadaeth o’r heriau penodol sy’n wynebu meddygon yng Nghymru yn ein harolwg ‘Ffocws ar feddygon’. Mae barn a phrofiadau meddygon yng Nghymru mor bwysig i’n helpu i ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol. Gallwch gael mynediad at yr arolwg yma – y dyddiad cau yw 2 Mehefin 2025.

Gofal diwedd oes 
Yn ddiweddar, cyfarfu tîm Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru â Lynne Hughes o’r elusen Marie Curie i gefnogi ei gwaith i ganfod y problemau systemig sy’n wynebu pobl yn ystod 12 mis olaf eu bywyd, a datblygu dulliau arloesol a theg o wella gofal lliniarol a diwedd oes ledled Cymru.

Gan ein bod yn gwybod bod un o bob 14 o ymweliadau ag adrannau achosion brys yng Nghymru yn rhywun ym mlwyddyn olaf ei fywyd, mae Marie Curie yn awyddus i ddeall y prif ffactorau sy'n sbarduno derbyniadau heb eu cynllunio i'r ysbyty a beth yw rhai o'r atebion posibl yn ein barn ni. Bydd Marie Curie yn hwyluso rhai trafodaethau ar gyfer meddygon preswyl, felly cadwch lygad am y rhain. Mae gan Lynne ddiddordeb hefyd mewn clywed am unrhyw brosiectau gwella ansawdd rydych chi a’ch cydweithwyr o bosibl wedi’u rhoi ar waith i wella gofal diwedd oes. Cysylltwch â hi yn lynne.hughes@mariecurie.org.uk

Yn olaf
Mae gennym lawer o bethau cyffrous ar y gweill ar gyfer mis Mehefin, gan gynnwys cwrdd â’r Prif Swyddog Meddygol newydd yng Nghymru fel rhan o Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru (AoMRC) a mynd i gynhadledd y Blaid Lafur lle byddwn yn cymryd rhan mewn digwyddiad hystings ac yn siarad ag Aelodau o’r Senedd ynghylch pam mae angen cynllun gweithlu tymor hir arnom ar gyfer Cymru. 

Dr Hilary Williams

Vice president for Wales

Hilary Williams 1 (2)