Ym mlog y mis hwn, mae Dr Hilary Williams, is-lywydd RCP Cymru yn trafod agoriad yr ysgol feddygol newydd yng Ngogledd Cymru a sut y gall y GIG ddod yn lle deniadol i weithio i feddygon sydd newydd gymhwyso.
Roedd hi’n gyffrous gweld Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn cael ei lansio ar 4 Hydref. Bydd yr ysgol feddygol newydd, ym Mhrifysgol Bangor, yn golygu y bydd 80 o fyfyrwyr yn dod y rhai cyntaf i fod yn feddygon a fydd wedi cwblhau eu holl hyfforddiant yng ngogledd Cymru (roedd myfyrwyr yn arfer graddio ym Mhrifysgol Caerdydd). Erbyn 2029, mae'r ysgol feddygol yn gobeithio croesawu 140 o fyfyrwyr y flwyddyn, gan anelu at hyfforddi, yna cadw, mwy o feddygon yn GIG Cymru am fwy o amser.
Mae cadw staff yn y GIG yn her enfawr. Yn 2022, dywedodd 57% o feddygon ymgynghorol Cymru fod swyddi ymgynghorwyr gwag, a dywedodd 61% fod bylchau dyddiol neu wythnosol yn y rota meddygon preswyl. Mae hyn yn cyfrannu at lwythi gwaith trymach, staff yn blino a rhestrau aros hirach – gyda’r effaith ganlyniadol ar ofal a phrofiad cleifion. Mae angen i ni wneud hyn yn well – darllenwch ein papur gwybodaeth The people who care i ddysgu rhagor.
Does dim dwywaith bod gogledd Cymru yn lle hyfryd i astudio ac efallai fod manteision llesiant y mynyddoedd a’r traethau yn apelio at fyfyrwyr meddygol sydd newydd gymhwyso ac yn eu hannog i aros a datblygu eu gyrfa yn lleol ar ôl iddynt raddio. Ond mae rôl fawr i’r GIG yma: mae angen i gyflogwyr fuddsoddi mewn seilwaith TG a gofal iechyd digidol, cael yr hanfodion yn iawn – lleoedd i orffwys, bwyd poeth, gofal plant hyblyg – a chefnogi a grymuso meddygon i ddatblygu ac i ffynnu yn eu gyrfaoedd. Mae gwneud hyn yn iawn yn hanfodol i’n poblogaethau lleol: beth yw’r ffordd orau o ofalu am ein pobl hŷn, y rhai sy’n byw’n wledig, neu bobl sy’n byw gyda chyflwr cronig neu brin?
Hoffwn glywed eich barn am hyn. Dewch i ymuno â'r drafodaeth yn ein Diweddariad ar feddygaeth – Caerdydd ar 5 Rhagfyr. Y diwrnod canlynol, byddwn yn ymweld ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, felly os ydych chi’n feddyg preswyl neu’n feddyg SAS neu’n feddyg ymgynghorol sy’n gweithio yn yr ysbyty, dewch draw i ddweud helo – cysylltwch â Wales@rcp.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Cwrdd ag ysgrifennydd newydd y cabinet dros iechyd a gofal cymdeithasol
Mae newidiadau mawr yn llywodraeth Cymru – Jeremy Miles AS yw ein hysgrifennydd y cabinet newydd dros iechyd a gofal cymdeithasol. Mae eisoes wedi cyhoeddi grŵp cynghori gweinidogol newydd ar berfformiad a chynhyrchiant – ac rydyn ni wedi ysgrifennu i ofyn am gyfarfod. Rwy’n awyddus ein bod yn datblygu perthynas adeiladol ag ef dros y 18 mis nesaf wrth i ni nesáu at etholiad nesaf y Senedd. Ar y nodyn hwnnw, byddwn yn dechrau datblygu ein hymgyrch yr hydref hwn – beth ydych chi’n meddwl ddylai fod ar restr flaenoriaethau llywodraeth nesaf Cymru?
Pwy fydd prif swyddog meddygol nesaf Cymru?
Mae’r gwaith wedi dechrau i recriwtio’r prif swyddog meddygol nesaf! Dwi’n falch o ddweud y bydd yr Athro Olwen Williams, fy rhagflaenydd fel is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon ar y panel cyfweld, yn cynrychioli Academi'r Colegau Meddygol Brenhinol yng Nghymru. Rwy’n gwybod y bydd Olwen yn chwarae ei rhan i sicrhau proses dryloyw a thosturiol. Yn bersonol, rwy’n credu bod yr arweinwyr meddygol gorau yn cyfuno’r her o negodi strategol â dealltwriaeth real a pharhaus o ofal clinigol ‘bywyd go iawn’. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r prif swyddog meddygol nesaf ar eich rhan, ac rwy’n gwybod ein bod i gyd yn anfon ein dymuniadau gorau i Syr Frank Atherton wrth iddo gamu i lawr.
Ac i gloi...
Mae Emily Wooster wedi ymuno â ni’r mis yma fel rheolwr polisïau ac ymgyrchoedd Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae Emily yn dod atom ni o’r British Heart Foundation, ar ôl gweithio yn Mind a’r Sefydliad Iechyd Meddwl, ac mae ganddi 20 mlynedd o brofiad ym maes datblygu polisïau, ymgyrchoedd a dylanwadu ar newid.
Y tu allan i’r gwaith, mae’n cadw’n brysur gyda’i phlentyn 5 oed bywiog ac mae hi wrth ei bodd yn cerdded bryniau Cymru. (Pan fydd hi’n cael cyfle!)
Rwy’n gwybod bod Emily yn edrych ymlaen at fynd allan a siarad ag aelodau am y materion rydyn ni’n eu hwynebu fel coleg. Dros yr wythnosau nesaf, bydd yn adnewyddu ein blaenoriaethau polisi ar gyfer y gwledydd datganoledig, ac rwy’n siŵr y bydd yn adeiladu ar lwyddiant Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru.
Ac i orffen, mae ein meddygon preswyl yng Nghymru wedi rhagori unwaith eto yng nghystadleuaeth posteri rhithiol Coleg Brenhinol y Meddygon - roedden nhw wedi dewis pynciau gwych! Rhaid sôn am y rhai sy’n arwain arloesedd a newid clinigol go iawn ar draws GIG Cymru. Bydd ein cystadleuaeth nesaf yn agor am geisiadau ym mis Mawrth 2025. I gael hysbysiad, anfonwch e-bost at postercompetition@rcp.ac.uk
Pob gofal