Blog

18/12/24

18 December 2024

Cyfarchion yr Ŵyl o Goleg Brenhinol y Meddygon: Y diweddaraf mewn Meddygaeth - Caerdydd

Doctors

Eleni, roedden ni wir eisiau agor diweddariad Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghaerdydd gyda phwyslais ar ofal iechyd gwell i’n poblogaeth ar draws Cymru. Cafwyd sesiynau pwerus iawn, yn enwedig wrth i siaradwyr ein tîm o feddygon teulu y ‘Deep End’ ganolbwyntio ar anghydraddoldebau iechyd yn Ne Ddwyrain Cymru a wnaeth i ni feddwl am bwysigrwydd cau’r bwlch rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Dywedodd un o’r cynadleddwyr: ‘roedd yn gyfuniad perffaith o wyddoniaeth uchel-ael, ymarfer y byd go iawn, siaradwyr â chymeriad a ffraethineb, gan gymysgu gyda cydweithwyr hyfryd mewn lleoliad hyfryd.' Byddwn yn rhannu rhai trafodaethau allweddol o'r diweddariad ym mis Ionawr oherwydd eu bod nhw’n cysylltu'n dda gyda’n polisi datblygol ar gyfer Etholiadau’r Senedd, lle mae’n amlwg y bydd heriau’r GIG yn ganolog.

Rydym hefyd yn falch iawn bod enillydd cystadleuaeth boster Coleg Brenhinol y Meddygon eleni yn gweithio yn Llwynhelyg. Creodd Dr Mohammed Salmaan Azam drosglwyddiad digidol, drwy ddefnyddio offer NHS Microsoft; a datblygwyd y cyfan mewn penwythnos. Yn ogystal â lleihau’r amser sy’n cael ei golli ar ‘ddarnau o bapur’ ac e-byst, gellir defnyddio’r system i gynhyrchu data o weithgaredd cleifion.

Mae wedi bod yn galonogol gorffen y flwyddyn gyda chyfres o ddigwyddiadau Coleg Brenhinol y Meddygon, gan gynnwys cyfarfod o’n meddygon SAS yng Nghaerdydd lle clywsom awgrymiadau da iawn am gynllunio swyddi ac yna taith i Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Felly diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser, fel rhan o dîm Coleg Brenhinol y Meddygon a’r rheini sydd wedi ymuno â’r digwyddiadau ac wedi rhoi o’u hamser yn hael ac yn hynod gynhyrchiol. Mae wedi bod yn brysur ond yn llawer iawn o hwyl, ac er gwaethaf yr holl heriau sy’n ein hwynebu, rydyn ni wedi llwyddo i wenu ac i ddysgu am y gorau ym maes gofal iechyd yng Nghymru.

Datblygiadau polisi newydd – ond mae angen gweithredu nawr

Yn arwain at dymor y Nadolig, bu llif o ddatblygiadau polisi yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi diweddariad ar gyfer eu cynllun ar gyfer Cymru iachach –blaenoriaethau sy’n cyd-fynd i raddau helaeth â'n rhai ni yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon ond fe wnaethom ofyn am gynllun gweithredu diriaethol, y gellir ei gyflawni gyda cherrig milltir penodol ar gyfer y diweddariad – fel arall, sut byddwn ni’n gwybod bod y polisi yn gwneud gwahaniaeth i iechyd a bywydau pobl mewn gwirionedd? Mae’r Cynllun Iechyd Menywod hefyd wedi’i lansio gyda chynlluniau ar gyfer canolfannau iechyd i fenywod ym mhob rhan o Gymru. Rydyn ni wedi gofyn yr un cwestiwn ynglŷn â’r angen am gynllun gweithredu gyda cherrig milltir; a phryd y bydd menywod yng Nghymru yn elwa o wasanaethau Meddygaeth Obstetrig arbenigol, sefydledig y mae gan fenywod yn Lloegr fynediad rheolaidd atyn nhw?

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu cyllideb ddrafft gyda £600 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a fydd yn mynd tuag at ‘ostwng amseroedd aros, gwella gwasanaethau iechyd meddwl a gwella gwasanaethau iechyd i fenywod.’ Rydyn ni eisiau gweld rhywfaint o’r buddsoddiad hwn mewn gofal cymunedol cymdeithasol ac ataliol er mwyn cadw pobl yn iach ac yn eu cartrefi o fewn eu cymunedau – ac y gall meddygon sicrhau bod mwy o welyau ar gael i’r cleifion mwyaf sâl.

Newyddion San Steffan: adolygiad Leng o Gymdeithion Meddygol, a phleidlais Aelodau Seneddol o blaid cymorth i farw

Yn San Steffan, pleidleisiodd Aelodau Seneddol o blaid Cymorth i Farw. Fe wnaethom gymryd safiad niwtral yn dilyn arolwg o’n haelodau yn 2019 sy'n golygu nad yw Coleg Brenhinol y Meddygon yn cefnogi nac yn gwrthwynebu newid yn y gyfraith. Ond nawr bod y bil wedi pasio’r bleidlais, bydd Coleg Brenhinol y Meddygon, mewn ymgynghoriad â’i Gyngor, yn ystyried y materion sy'n ymwneud â gweithredu os daw'r bil yn gyfraith.

Rydyn ni hefyd wedi croesawu adolygiad annibynnol o gymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia (‘adolygiad Leng’), a gomisiynwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Wes Streeting. Bydd Coleg Brenhinol y Meddygon yn cyfrannu at yr adolygiad ac wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cynrychioli ystod o safbwyntiau a phrofiadau ein haelodaeth; yr hyn sy'n amlwg yw bod ein haelodaeth yn cefnogi cwmpas clinigol sy’n cael ei ddiffinio’n genedlaethol, yn ein cefnogi o ran rhoi lle canolog i hyfforddiant meddygon preswyl yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon ac yn y gweithle ond hefyd yn parchu ein gweithlu o Gymdeithion Meddygol sydd wedi bod yng nghanol yr hyn sydd, ar brydiau, yn ddadl wenwynig a gofidus iawn.

Yn ogystal, cyhoeddodd y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) ei adroddiad ar ganlyniad ei ymgynghoriad cyhoeddus ar y rheolau, y safonau a’r canllawiau arfaethedig a fydd yn llywodraethu’r broses o reoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anaesthesia pan ddaw’r rheoliad i rym.

Croeso a hwyl fawr

Hoffwn estyn croeso mawr i Dr Fidan Yousuf (neu Fi) sydd wedi’i phenodi gan bwyllgor enwebu Coleg Brenhinol y Meddygon fel y cynghorydd rhanbarthol newydd ar gyfer De Ddwyrain Cymru. Symudodd Fi i Dde Cymru yn 2005 ar gyfer ei hyfforddiant meddygol ôl-raddedig ac i gael newid byd, ac ni adawodd! Datblygodd ei diddordeb mewn hepatoleg a chafodd ei phenodi yn hepatolegydd ymgynghorol yn Uned Afu Gwent yn 2018 lle datblygodd grŵp cymorth i gleifion hefyd. Mae Fi hefyd yn rhan o fenter gwella ansawdd genedlaethol ar wella safonau gofal mewn unedau afu ledled y DU. Bydd yn dechrau yn y rôl yn ffurfiol o 1 Ionawr pan fydd Vivek yn rhoi’r gorau iddi fel cynghorydd rhanbarthol De Ddwyrain Cymru ar ddiwedd y flwyddyn. Mae Vivek wedi bod yn y swydd ers 6 blynedd a hoffwn ddiolch o galon iddo am ei gyfraniad i Goleg Brenhinol y Meddygon dros y blynyddoedd. Mae wedi bod yn eiriolwr cryf iawn dros ei gydweithwyr yn BIPAB, gan ddeall yn arbennig yr heriau a wynebir gan gydweithwyr IMT a SAS a bu’n allweddol yn ein rhwydwaith SAS sy’n tyfu yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon ac yng Nghymru. Mae Dr Sacha Moore sy’n hyfforddi mewn meddygaeth arennol academaidd wedi’i phenodi i’r Pwyllgor Meddygon Preswyl, ac felly byddwn yn parhau i gael cynrychiolaeth gref iawn ochr yn ochr ag Alex.

I gloi, mae Coleg Brenhinol y Meddygon hefyd wedi cyhoeddi canllaw modern ar ofal i gleifion allanol sy'n pwysleisio'r angen i wneud llwybrau gofal arbenigol a gynlluniwyd yn fwy cynaliadwy. Ac os ydych chi’n feddyg gyrfa gynnar, mae ein hymgyrch #NextGenPhysicians bellach yn fyw – rydyn ni’n galw am adolygiad yn y pedair cenedl o hyfforddiant meddygol ôl-raddedig ac rydyn ni eisiau clywed wrthych chi. Ymunwch â’r sgwrs a chymerwch ran!

Gobeithio y cewch chi gyd rywfaint o amser i ffwrdd dros y gwyliau ac i dreulio amser gyda theuluoedd a ffrindiau – cadwch lygad ar ein rhwydweithiau cymdeithasol am ddiweddariad Nadoligaidd wrth dîm Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru.

Cymerwch ofal,
Hilary

Dr Hilary Williams

Vice president for Wales

Hilary Williams 1 (2)