Blog

17/04/24

17 April 2024

Cynnydd a phwysau | cofio Dr Gareth Llewelyn

Dr Andrew Lansdown

Mae Dr Hilary Williams ar wyliau.

Cadw pethau mewn persbectif

Wrth i ni arolygu’r dirwedd feddygol heriol yn 2024, mae’n bwysig ein bod yn cynnal barn gytbwys. Dros yr hanner canrif ddiwethaf, rydym wedi cymryd camau breision o ran arbenigedd, rheoli clefydau cronig ac ymyriadau iechyd cyhoeddus. Mae’r cynnydd hwn yn golygu bod mwy o bobl yn byw bywydau hirach ac iachach, yn goroesi clefydau fel canser yn well, ac mae mwy o bobl â chyflyrau iechyd yn byw bywydau mwy annibynnol.

Mae ymyriadau iechyd cyhoeddus fel deddfau di-fwg, brechiadau rhag y ffliw i blant a phobl hŷn, a’r gwaharddiad ar hysbysebu bwyd sothach hefyd wedi helpu i sbarduno’r canlyniadau hynny, ac mae mwy i ddod.

Yn ddiweddar, cyflwynodd llywodraeth y DU ddeddfwriaeth i ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag niwed ysmygu. Mae hyn yn golygu, os caiff y bil ei basio i gyfraith, ni fydd unrhyw un a anwyd ar 1 Ionawr 2009 neu ar ôl hynny byth yn gallu prynu cynhyrchion tybaco yn gyfreithlon. Gan fod ysmygu’n cyfrannu at tua 80,000 o farwolaethau bob blwyddyn ledled y DU, mae hyn yn ymyrraeth sylweddol.

Fodd bynnag, gyda’r cynnydd hwn daw pwysau ychwanegol ar wasanaeth iechyd a gynlluniwyd am y tro cyntaf ar gyfer Prydain yn y 1940au. Yn ddiweddar, canfu’r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol fod bodlonrwydd â’r GIG ar ei isaf ers i arolwg Agweddau Cymdeithasol Prydain ddechrau ym 1983. Mae’r un hen themâu ar gyfer anfodlonrwydd yn cael eu nodi – amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau meddyg teulu ac ysbyty (71%), prinder staff (54%) a gwariant annigonol gan y llywodraeth (47%).

Er gwaethaf y galwadau cynyddol hyn, nid yw pwysau’r gweithlu a seilwaith y GIG – gan gynnwys seilwaith TG – wedi cadw i fyny. Dangosodd ffigurau diweddar gan Gymdeithas Feddygol Prydain (BMA) fod meddygon y GIG yn gwastraffu tua 13.5 miliwn awr y flwyddyn yn ailgychwyn cyfrifiaduron ac yn syllu ar sgriniau llwytho. Mae’n amlwg bod angen mwy o gyllid i gynnal ac arfogi gwasanaeth iechyd sy’n addas ar gyfer ei amser, gan gynnwys cynllunio tymor hir ar gyfer y gweithlu sydd ei angen ar y gwasanaeth iechyd a’n cymunedau, yn awr ac yn y dyfodol.

Yn aml, mae’n gallu bod yn llethol clywed yr arolygon a’r ystadegau hyn, ac mae’n hawdd colli persbectif, o ran y cynnydd rydym ni wedi’i wneud a’r hyn mae’n ei olygu go iawn i fod yn feddyg.

Yn ôl i’r pethau sylfaenol

Ym mis Ionawr, siaradais mewn cyfarfod amser cinio o’r enw ‘Striving to be a better physician.’

Roedd yn gyfle gwych i fynd yn ôl i’r pethau sylfaenol a myfyrio ar agweddau pwysig fel beth sy’n gwneud meddyg da? Pwy sy’n diffinio hyn? Y cariad at feddygaeth - ai 'swydd' yn unig ydyw? A yw meddygaeth yn gelfyddyd neu'n wyddoniaeth?

Roedd y sgwrs yn cynnwys llawer o ddyfyniadau gan feddygon blaenllaw o’r canrifoedd diwethaf. Gallaf grynhoi effaith cael fy atgoffa o eiriau o’r fath drwy ddyfynnu Hippocrates ei hun, a ddywedodd ‘foolish the doctor who despises the knowledge acquired by the ancients’.

Un o'r meddygon a ddyfynnwyd fwyaf oedd y meddyg o Ganada, William Osler (1849-1919), sy’n cael ei ddisgrifio’n aml fel tad meddygaeth fodern ac un o'r diagnostegwyr gorau i ddefnyddio stethosgop.

Mae’n werth ystyried rhai o ddyfyniadau canlynol Osler:

‘The practice of medicine is an art, not a trade; a calling, not a business; a calling in which your heart will be exercised equally with your head.’

‘The good physician treats the disease; the great physician treats the patient who has the disease.’

‘Listen to the patient, he is telling you the diagnosis.’

‘Acquire the art of detachment, the virtue of method, and the quality of thoroughness, but above all the grace of humility.’

Gall y dyfyniadau hyn helpu i gynnal ein ffocws yng nghanol prysurdeb a heriau 2024. Gall cymryd munud i fyfyrio ddod â ni'n ôl at y pethau sylfaenol yn ein hymagwedd at ofal cleifion.

Gogoniant meddygaeth

Gyda phwysau parhaus ar y gweithlu, gweithredu diwydiannol, a chyfyngiadau cyllidebol, gall fod yn rhy hawdd digalonni.

Fodd bynnag, dylem wneud ein gorau glas i gofio pa mor ogoneddus yw meddygaeth! Nid yw ‘gogoneddus’ yn air a glywn yn aml y dyddiau hyn, yn enwedig mewn perthynas â meddygaeth. Ond mae bod yn feddyg yn llawer mwy na slafdod beunyddiol y gwaith. Rydym ni’n rhan o rywbeth mawreddog ac yn ymdrechu er budd cymdeithas; yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr gwych ac yn cael y fraint bob dydd i gwrdd â phobl wych – ein cleifion. Dyma ddyfyniad arall a welais: ‘Sometimes I inspire my patients, more often they inspire me.’ Gadewch i hynny fod yn wir i ni gyd.

Efallai y dylai'r dyfyniad terfynol ddod o un o saith sylfaenwr clinig Mayo, William James Mayo (1861-1939) ei hun:

‘The glory of medicine is that it is constantly moving forward, that there is always more to learn. The ills of today do not cloud the horizon of tomorrow, but act as a spur to greater effort.’

Gobeithio y gallwn ni i gyd gael ein hannog i weld gogoniant meddygaeth unwaith eto yn 2024, a chael ein sbarduno i wneud mwy o ymdrech y gwanwyn hwn.

Teyrnged i Dr Gareth Llewelyn

Yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon, roeddem i gyd yn drist iawn o glywed bod cyn-lywydd Cymru, Dr Gareth Llewelyn, wedi marw ddydd Sul 31 Mawrth yn dilyn salwch byr. Roedd ei deulu gydag ef.

Roedd Gareth yn niwrolegydd ymgynghorol yn gweithio yn ne-ddwyrain Cymru. Bu’n is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru rhwng 2017 a 2020, ac fe gafodd MBE am ei wasanaethau i feddygaeth yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2021.

I’r rhai ohonom a oedd yn adnabod Gareth, roedd yn nodweddiadol o bopeth sy’n gwneud meddyg gwych, ac yn ymgorfforiad o ddyfyniadau uchod Osler. Yn ystod ei gyfnod fel is-lywydd, arweiniodd Gareth ni gydag eglurder a doethineb amlwg, gan sicrhau bod Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth. Nid oedd llawer yn sylweddoli mai ei sgwrs yng Nghynhadledd Coleg Brenhinol y Meddygon fis Tachwedd diwethaf fyddai ei ddigwyddiad olaf gyda ni. Pa mor addas, felly, y rhoddwyd y lle olaf iddo ar y llwyfan, gan roi darlith ragorol ar anhwylder niwrolegol swyddogaethol y byddwn yn ei gofio gyda diolchgarwch dwfn.

Byddwn yn gweld ei eisiau’n fawr: ei synnwyr digrifwch, ei frwdfrydedd dros feddygaeth, ei chwilfrydedd, ei greadigrwydd a’i ymrwymiad cryf i gefnogi a datblygu’r genhedlaeth nesaf o feddygon. Bydd gwaddol Gareth yng Nghymru yn hirbarhau. Meddyliwn am ei deulu ar yr adeg anodd hon.

Yn olaf...

Cadwch mewn cysylltiad â ni yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon Cymru - rydym ni wrth ein bodd yn clywed eich barn a byddwn yn parhau i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir yn y coleg. Gan ddymuno’n dda i chi i gyd y gwanwyn hwn.

Dr Andrew Lansdown
Endocrinolegydd Ymgynghorol
Cynghorydd Rhanbarthol Coleg Brenhinol y Meddygon
Ar ran tîm Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru