Blog

21/08/24

21 August 2024

Dechrau newydd | datblygu arbenigedd mewn gwneud penderfyniadau uwch | swydd wag - cynghorydd rhanbarthol

Doctors in hospital

Mae’r haf wedi cyrraedd, a hoffwn roi croeso mawr i’n holl feddygon newydd gan dîm Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru. P’un a ydych chi wedi cael eich magu’n lleol neu’n newydd i’n GIG yng Nghymru, rwy’n gobeithio bod hyn yn ddechrau gyrfa hir a gwerth chweil i chi. 25 mlynedd yn ddiweddarach, rwy’n dal i fod wrth fy modd â’r her o weithio ym maes meddygaeth glinigol; yn enwedig gweithio gyda fy nhîm i helpu ein cleifion i ymdopi â’r pethau sy’n newid ac sy’n aml mor annisgwyl o ran eu hiechyd. Yn anffodus, nid oes modd gwella llawer o ganserau, ond mae cefnogi ein cleifion i ymdopi â’u taith, sy’n aml yn rhy fyr o lawer, yn dal yn fraint enfawr. Gall unrhyw ddechrau newydd fod yn frawychus, ond un peth rwy’n sicr ohono yn GIG Cymru yw ei bod hi bob amser yn iawn gofyn am help, ac mae’r help hwnnw wastad ar gael.

Fis nesaf, bydd cystadlaethau posteri rhithiol Coleg Brenhinol y Meddygon yn cael eu cynnal. Roeddwn yn falch iawn o glywed mai Cymru, ar wahân i Lundain, oedd â’r nifer uchaf o ddyluniadau ar y rhestr fer o gynigion a fydd yn cael eu cyflwyno. Pob lwc i’r rhai sydd wedi bod yn llwyddiannus. 

Mae bob amser yn ddiwrnod gwell pan fyddaf yn diffodd y gliniadur, yn neidio ar fy meic ac yn dal yr haul ddiwedd dydd. Y gwir amdani yw nad yw hyn yn digwydd yn ddigon aml; mae’n rhy hawdd gwastraffu amser, gwneud paned arall a meddwl am e-bost arall gydag ymennydd sydd wedi cael digon. Ond, llwyddais i neidio ar fy meic a beicio i fyny'r bryn lleol. Yn sydyn, daeth menyw ar feic 'fixie’ heibio a fy mhasio ar wib.  Roeddwn i’n teimlo cywilydd, ond roeddwn i’n teimlo’n well drwy feddwl cymaint yn ddoethach oeddwn i wrth fynd yn hŷn! 

Fel y gŵyr unrhyw un sy’n darllen y blogiau hyn, mae Tîm Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru yn aml yn ystyried - gyda’r heriau cyson o ran y galw am wasanaethau, y ffocws cynyddol ar ofal a ddarperir gan ymgynghorwyr, a baich gwerthuso - sut rydym yn sicrhau bod ein meddygon preswyl a’n meddygol lleol yn cael y cyfleoedd hanfodol i ddatblygu eu harbenigedd mewn gwneud penderfyniadau uwch. Felly, manteisiais i’r eithaf ar ymuno â Phwyllgor Hyfforddeion Coleg Brenhinol y Meddygon i gael crynodeb byr o’r safbwyntiau, ac ymatebodd Dr Anand Sundaralinga a’r tîm gyda’r Cwmwl Geiriau gwych hwn – darllenwch i weld a yw’r safbwyntiau hyn yn berthnasol i chi. 

Qualities and skills unique to a Senior Decision Maker

Mae adroddiad newydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn anodd ei ddarllen, a gallwch ddarllen ein hymateb. Mae’n hawdd teimlo nad ydych chi’n neb o bwys yn y darlun mawr, ond cofiwch beth y gallwn ei reoli. Cymerwch bum munud i feddwl sut gallwch chi helpu’r rhai llai profiadol na chi i gymryd camau i dyfu’r dull claf cyfan hanfodol hwn. Rydw i’n dal i gofio’r cleifion y siaradais â nhw pan oeddwn i’n swyddog preswyl – dydw i ddim yn cofio llenwi’r ceisiadau am sgan CT (efallai oherwydd bod yn rhaid i chi ddod o hyd i’r pecyn ffilm blaenorol trwm iawn i wneud cais arall).

Yr hyn rwy’n ei wneud ar hyn o bryd yw ‘dadragnodi’, sy’n canolbwyntio ar leihau amlgyffuriaeth mewn cleifion hŷn sydd â chanser; mae ein feddygon IMT yn fy addysgu am gyffuriau cardiaidd newydd, ac rwy’n awgrymu y dylem adolygu pwysedd gwaed a statinau wrth i ddisgwyliad oes leihau.

Mae’r tîm Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru’n ceisio cyfarfod yn fisol. Tybed ai MS Teams yw’r ffordd ddiweddaraf o gael sgwrs a rhoi'r byd yn ei le?  Rydym ni’n siarad, yn cwyno ychydig, yn cynllunio, yn herio, ac mae’n ein helpu ni i seilio ein polisi ar heriau clinigol o ddydd i ddydd. Mae Dr Karl Davis, ein cynghorydd RCP newydd sy’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wedi ymuno â ni erbyn hyn hefyd. Er ein bod yn hoffi cyfarfod, y prif bwrpas yw gweld beth y gallwn ei gyflawni. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gadw’r gweithlu ledled Cymru, gan sicrhau safonau da o ran hyfforddi, croesawu ac eiriol ar ran ein meddygon arbenigol ac arbenigwr cyswllt (SAS) a’n graddedigion meddygol rhyngwladol (IMG), gweithredu ar anghydraddoldeb iechyd, ac yn bwysicaf oll, gwrando ar ein haelodau. Yn ddiweddarach eleni, bydd cyfnod Dr Vivek Goel fel ein cynghorydd rhanbarthol ar gyfer de-ddwyrain Cymru yn dod i ben, a byddwn yn dechrau’r broses recriwtio ar gyfer cynghorydd rhanbarthol newydd ym mis Medi. Os ydych chi’n gymrawd sy’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac am gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Yr wythnos diwethaf, am y tro cyntaf ar ddechrau ein clinig bore Llun, gofynnais i’n tîm a oeddent yn teimlo’n ddiogel. Mae’r gweithlu rhyngwladol yn hanfodol i’r GIG yng Nghymru ac er fy mod yn falch iawn bod Cymru wedi osgoi'r gwaethaf o’r trais hiliol yn y DU, ni allwn gymryd hyn yn ganiataol. Yn yr un modd, mae’n hawdd nodi’r her ond peidio â chyflawni unrhyw newid. Felly, roeddwn eisiau tynnu sylw at y gwaith mae ein cydweithiwr o Goleg Brenhinol y Meddygon, yr Athro Anton Emmanuel, yn ei wneud i gyflawni Safonau Cydraddoldeb Hil y Gweithlu yng Nghymru gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar ddata i gefnogi’r gwaith o gyflawni newid sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gwreiddio atebolrwydd ledled Cymru.

Cofiwch, gallwch gysylltu â thîm Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru drwy anfon e-bost at Wales@rcp.ac.uk 

Mwynhewch weddill yr haf!

Dr Hilary Williams

Vice president for Wales

Hilary Williams 1 (2)