Blog

24/01/24

24 January 2024

Y cyffyrddiad personol | gwyddoniaeth ar waith

Dr Hilary Williams NEW

Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd i weithlu’r GIG yng Nghymru. Roedd ein cydweithwyr dan hyfforddiant wedi gwneud y penderfyniad anodd iawn i fynd ar streic yr wythnos diwethaf; fe wnes i, a llawer o’m cydweithwyr ymgynghorol ac arbenigol helpu gyda’r llwyth gwaith, ond rydw i’n credu y gallwn ni i gyd gytuno nid ar chwarae bach y mae neb wedi wedi penderfynu gweithredu’n ddiwydiannol. Dim ond pan nad oes dewis arall yr ydym yn gwneud hynny, felly mae hi’n hen bryd cael datrysiadau arloesol. Mae angen i ni werthfawrogi ein holl staff iechyd a gofal cymdeithasol.

Lefel ddiogel o staff

Roeddwn i’n ffodus i gael seibiant da dros gyfnod yr ŵyl, ond roedd hi’n dal yn sioc i’r system bod yn ôl yng nghyfarfod y tîm amlddisgyblaethol am 8.30am ar 2 Ionawr. Roedd y rhestr yn hir, ond roedd angen i'r tîm gael trafodaeth ystyriol am bob claf, felly dyna beth ddigwyddodd. Roedd gweld y tîm wyneb yn wyneb, ac ymrwymiad ein cydlynydd, nyrsys, tîm patholeg, radiolegwyr a llawfeddygon, i roi cynllun ar waith ar gyfer pob claf, yn fy atgoffa o bwysigrwydd gwaith tîm. Mae’n fwy o hwyl ac yn fwy diogel.

Mae hi’n amlwg bod angen gweithlu. Fis Gorffennaf diwethaf, fe wnaethon ni ymuno â bron i 30 o golegau brenhinol a chyrff proffesiynol eraill i gyhoeddi Y bobl sy'n gofalu, i nodi ein syniadau ar gyfer cynyddu ein llwyddiant o ran recriwtio a dal gafael ar staff yng Nghymru.  Yn gynharach y mis hwn, fe wnes i gyfarfod ag Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, a gofynnais iddi ymrwymo i strategaeth ar gyfer dal gafael ar feddygon. Roedd ei hymateb yn gadarnhaol iawn – felly cysylltwch â’ch syniadau!

Fodd bynnag, nid oes pwrpas cael strategaeth heb ei gweithredu, felly sut y gallwn sicrhau ein bod yn rhoi hyn ar waith? Yn sicr, dydy’r un dull ddim yn addas i bawb ac rydw i’n awyddus i glywed beth rydych chi’n ei feddwl o'r canlynol: bylchau aml yn y rota, colli gwyliau blynyddol a chyfleoedd gyrfa i bobl hŷn...Fe wenais wrth ddarllen bod angen i bawb gael ffrind gorau yn y gweithle. Pam cael un ffrind yn unig? Rydw i angen cwyno gyda rhywun yn gyfrinachol, rhywun i fy ysbrydoli, rhywun i wneud i mi chwerthin, a rhywun i roi cwtsh fawr i mi o bryd i’w gilydd.

Gwyddoniaeth ar waith

Yn bersonol, y boddhad rydw i’n ei gael o feddygaeth yw rhoi gwyddoniaeth ar waith. Rydw i’n cofio’n glir sut roedd diagnosis o melanoma malaen wedi effeithio’n gyflym a niweidiol ar gleifion ychydig flynyddoedd yn ôl, pan nad oedd triniaethau effeithiol ar gael; erbyn hyn mae pobl yn byw am flynyddoedd. Mae cyffuriau newydd ar gyfer ffibrosis systig yn newid bywydau. Mae cyflwyno’r treial RECOVERY anhygoel ledled y DU wedi sicrhau bod gwyddoniaeth feddygol yn sicr yn ôl ar yr agenda.

Wedi'r cyfan, mae ymchwil glinigol yn hanfodol i wella canlyniadau cleifion. Mae gwir angen hyn yng Nghymru wrth i ni weithio i wella canlyniadau iechyd ar gyfer poblogaeth sy'n aml yn hŷn, yn byw yn wledig ac yn byw gyda nifer o gyflyrau cronig. Bydd ariannu gwaith ymchwil yn arwain at genhedlaeth o swyddi o ansawdd uchel, ac yn sbarduno buddsoddiad ehangach yn economi Cymru.

Yn fy mlog eleni, hoffwn dynnu sylw at y ffyrdd amrywiol a gwych y mae aelodau o dîm Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru wedi datblygu eu gyrfaoedd. Y mis hwn, rydym yn canolbwyntio ar ein cydweithwyr academaidd clinigol - Justyna, Magda and Sacha. Darllenwch eu straeon yn y fan yma.

Ac i gloi...

I gloi, hoffwn eich atgoffa i roi’r dyddiad yn eich dyddiadur ar gyfer ein digwyddiad Update in medicine 2024 yng Nghaerdydd ar 5 Rhagfyr – cyfle delfrydol i ddysgu mwy am yr arferion gorau yng Nghymru. Ar ben hynny, mae cynhadledd flaenllaw Coleg Brenhinol y Meddygon, Medicine 2024, yn prysur agosáu, gyda sesiynau yn Llundain ac ar-lein.

Felly, blwyddyn newydd dda i chi i gyd.  Os gallaf roi un gair o gyngor i chi; peidiwch byth ag esgeuluso eich ffrind gorau yn y gwaith!

Dr Hilary Williams 
Is-lywydd RCP Cymru 
Oncolegydd meddygol ymgynghorol

Dr Hilary Williams

Vice president for Wales

Hilary Williams 1 (2)