Rydym yn ysgrifennu hyn gyda chalon drom. Mewn wythnos pan gafwyd adroddiadau bod menywod sy’n llawfeddygon yn y GIG yn dioddef aflonyddu rhywiol, ymosodiadau rhywiol, ac mewn rhai achosion yn cael eu treisio gan gydweithwyr, mae wedi dod yn amlwg bod yr ymddygiadau hyn yn cael eu derbyn, a hyd yn oed yn cael eu cyfiawnhau a’u hesgusodi mewn rhai rhannau o’r byd – hyd yn oed yng Nghymru annwyl.
Yn anffodus, nid yw’r broblem wedi’i chyfyngu i fyd llawfeddygaeth neu anaestheteg, ac rydym yn cymeradwyo ein cydweithwyr ar y Gweithgor Camymddwyn Rhywiol ym maes Llawfeddygaeth (WPSMS) am fod y grŵp diweddaraf i dynnu sylw at y mater hwn yr wythnos diwethaf. Mae rhagfarn yn erbyn menywod yn dal yn rhywbeth cyffredin ym myd meddygaeth, ac er ei fod weithiau’n llai amlwg i’r rheini ohonom sydd ymhellach ymlaen yn ein gyrfaoedd, nid yw hynny’n golygu nad yw’n bodoli.
Rydym yn falch iawn o’n cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am eu datganiad yr wythnos hon. Mae angen dewrder i anghytuno’n gyhoeddus â chyn-gydweithiwr yng nghyd-destun teyrngarwch proffesiynol hirdymor, a bod yn barod i ddangos eich ochr ar fater mor bwysig. Nid oes lle i’r safbwyntiau hyn yn y GIG yng Nghymru. Nid oes lle iddyn nhw mewn cymdeithas fodern. O gwbl.
Mae’r pedair ohonom ni wedi codi i swyddi uwch arweinwyr yn ein harbenigeddau perthnasol. Rydym yn gweithio ym meysydd canser, meddygaeth teulu, seiciatreg a meddygaeth HIV. A gall pob un ohonom ni feddwl am brofiadau yn ein gyrfa ein hunain lle gwnaethom ni, ar y pryd, anwybyddu, diystyru, esgus peidio â chlywed neu beidio â gweld – ond roeddem wedi gweld, wedi clywed, ac rydym yn dal i gofio.
Rydym yn cofio’r meddyg ymgynghorol a ddywedodd wrth un ohonom ein bod ni wedi pasio arholiad proffesiynol dim oherwydd maint ein bronnau, a’r uwch arweinydd yn y GIG a wnaeth ymddwyn fel bwli pan gafodd wybod am bryderon dilys ynghylch diogelwch cleifion. Rydym yn cofio’r cydweithiwr a awgrymodd y dylem ganolbwyntio ar wneud te i’n gwŷr yn hytrach nag astudio meddygaeth, a’r llawfeddyg a ddywedodd wrthym yn ein hwynebau ein bod yn edrych yn ‘blaen’. Rydym yn cofio cael gwybod nad oedd sgwrs am rywiaeth ym maes meddygaeth yn berthnasol i’r dynion yn y gynulleidfa. Rydym yn cofio sut roedden nhw’n siarad â’r nyrsys. Rydym yn cofio clywed yr awgrymiadau rhywiol, y sylwadau am siâp corff cydweithwraig feichiog, y ‘tynnu coes’ anweddus.
Rydym yn cofio osgoi sefyllfaoedd cymdeithasol gyda rhai dynion – roedd yn rhy beryglus. Rydym yn cofio’r angen i brofi dro ar ôl tro ein bod yn feddygon cymwys, er ein bod ni wedi pasio’r un arholiadau â’r dynion a oedd yn gydweithwyr i ni, neu’r pwysau i ymddwyn fel ‘un o’r bois neu'r hogiau’ er mwyn cael ein derbyn, er mwyn bod yn rhan o'r ‘clwb’. Rydym yn cofio’r ymddygiad nawddoglyd tuag atom, clywed y dylem adael ein harbenigedd am opsiwn arall mwy addas i deuluoedd, teimlo ein bod yn cael ein tanseilio a’n bod yn ddi-rym. Rydym yn cofio teimlo’n gyndyn o siarad yn gyhoeddus yn ystod cyfarfodydd, a sensora ein hunain er mwyn osgoi cael ein hystyried fel y fenyw ‘anodd’ yn yr ystafell. Rydym yn cofio bod eisiau rhoi’r gorau i feddygaeth ar ôl cael ein trin yn wael iawn gan fenyw dan hyfforddiant a oedd wedi cael ei bwlio ei hun gan feddyg ymgynghorol. Mae creulondeb yn arwain at greulondeb; mae diwylliannau gwenwynig yn meithrin ymddygiad gwenwynig.
Mae aflonyddu rhywiol ym myd meddygaeth wedi cael ei oddef yn rhy hir. Ddeugain mlynedd yn ôl roedd yn rhemp, yn amlwg ac yn annymunol. Ac yn sicr, nid yw wedi diflannu.
Feddygon dan hyfforddiant, rydym yn sefyll gyda chi. Fyfyrwyr meddygol, rydym yn sefyll gyda chi. Y rheini ohonoch sydd ar gychwyn eich gyrfa yn eich arbenigedd, neu fel meddyg ymgynghorol newydd, neu fel meddyg a gyflogir yn lleol, rydym yn sefyll gyda chi. Gydweithwyr o gefndiroedd crefyddol neu ethnig amrywiol, neu sy’n dod o gefndiroedd mwy difreintiedig, y rheini sydd, mor aml, ddim yn cael gwrandawiad, rydym yn sefyll gyda chi.
Ni allwn fforddio colli’r menywod ifanc dawnus, deallus a dewr hyn sydd wedi dewis gyrfa ym myd meddygaeth er gwaethaf y negyddoldeb di-baid a welir yn y wasg, y gwaith hynod galed a’r oriau hir. Mae’r myfyrwyr meddygol a’r meddygon dan hyfforddiant sy’n dewis ein proffesiwn yn aml wedi aberthu llawer i ymuno â ni. Ydy, mae hi’n swydd anodd – newid swydd a symud tŷ yn gyson, blynyddoedd o shifftiau nos dwys, dechrau’n gynnar a gorffen yn hwyr, a threfn arholiadau, asesiadau ac addysg galed a llawn straen. Ond mae’r ymddygiad rydym wedi clywed amdano yr wythnos hon nid yn unig yn annerbyniol ac yn sarhaus, ond yn anghyfreithlon hefyd.
Gall meddygaeth fod yn ddewis anodd fel gyrfa, ond nid yw hynny'n golygu y dylem gefnu ar gwrteisi, moesgarwch a pharch ar hyd y ffordd.
Os oes rhan ohonoch chi’n cytuno â’r cydweithwyr hynny sy’n credu y dylai menywod fod yn ‘gryfach’, gofynnwch pam i chi’ch hun. Byddem yn gofyn i chi ystyried a fyddech chi wedi bod eisiau gweithio gydag uwch feddygon sy’n cymryd mantais wrth hyfforddi. Fyddech chi wedi mwynhau gwybod bod eich datblygiad gyrfaol yn dibynnu’n rhannol ar feddyg ymgynghorol hŷn a oedd eisiau eich gweld chi’n noeth? Does dim rhaid i chi fod yn fenyw i deimlo pa mor annheg ac anghyfiawn yw hynny – dim ond bod yn berson.
Ein pobl ni yw'r bobl hyn
Ni oedd y menywod hyn, ar ryw dro. A dim ond oherwydd bod pethau, ar adegau, wedi bod yn ofnadwy i ni, yn sicr ni ddylent fod yn ofnadwy i’n merched, ein nithod, ein ffrindiau.
Felly peidiwch â chodi’r ysgol ar eich ôl – estynnwch eich llaw i helpu.
Mae llawer wedi cael ei ddweud am ddiwylliannau agored, tryloyw, a’r rhyddid i godi llais. Ac eto, does dim ots faint o adolygiadau, polisïau na chanllawiau rydym yn eu cyhoeddi, rydym yn dal i fethu gwneud pethau’n iawn. Pam mae ein cydweithwyr dan hyfforddiant yn dal i deimlo mor anniogel? Neu’n fwy cywir, pam mae’r system yn dal i ganiatáu iddyn nhw fod yn anniogel? Oherwydd – rhag i ni anghofio – mae rhoi’r cyfrifoldeb ar eraill i newid y byd yn feichus, yn flinedig ac, yn y pen draw, yn ddi-fudd.
Mae wedi cael ei ddweud o’r blaen, a bydd yn cael ei ddweud eto. Os nad ydych chi’n rhan o’r ateb, rydych chi’n rhan o’r broblem. Mae’r agweddau hyn yn gwaethygu ac, yn waeth na hynny, yn ymledu pan fyddwn yn eu hanwybyddu. Rydym yn dweud yn aml ‘o, anwybyddwch nhw’, neu ‘o, peidiwch â gadael i hynny eich poeni chi’. Ond mae hynny yn ein poeni ni. Ac os byddwn ni’n anwybyddu’r ymddygiad, bydd yn digwydd i rywun arall.
Wedi’r cyfan, mewn gwlad lle dydy dros 99% o achosion o dreisio sy’n cael eu riportio i’r heddlu ddim yn arwain at euogfarn, mae’r system yn ddiffygiol i bob un ohonom.
Mae meddygon dan hyfforddiant a meddygon ymgynghorol sydd newydd gymhwyso yn dweud wrthym fod y systemau adrodd yn wan. Anaml y bydd gweithredoedd pendant yn dilyn cwyn, ac mae’r risg o niweidio eu gyrfa yn risg rhy fawr i lawer fod eisiau codi eu llais. Mae union natur hyfforddiant meddygol yn golygu bod cydweithwyr iau yn cylchdroi rhwng gwahanol ysbytai a byrddau iechyd, felly pan fydd achos o gamymddwyn, mae’r meddyg dan hyfforddiant yn cael ei symud ymlaen ac yn aml iawn ni fydd unrhyw effaith ar y sawl sydd wedi camymddwyn.
Yn aml iawn nid oes canlyniadau go iawn i ymddygiad annerbyniol, felly ni ddylai fod yn syndod bod cymaint o achosion o gamymddwyn ac ymosod ddim yn cael eu riportio. Yn hytrach na hynny rydym yn goddef yr ymddygiad, ac yna’n cario’r euogrwydd gyda ni.
Felly codwch eich llais. Os yw’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus, mae’n siŵr bod rheswm da. Dywedwch rywbeth. Heriwch yr hierarchaethau. Maen nhw’n angenrheidiol weithiau, ar adeg ac mewn sefyllfa benodol iawn, ond nid yn aml, a ddim bob amser. Rydych chi i gyd yn arweinwyr. Mae gennych chi bŵer.
Mae gan ein colegau brenhinol ran i’w chwarae. Felly hefyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru a’r byrddau iechyd a’r ymddiriedolaethau sy’n ein cyflogi. Y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC), Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA), y llu o sefydliadau eraill sydd â phŵer dros ein bywyd fel meddygon.
Felly rydym ni’n sefyll gydag awduron adroddiad rhagorol WPSMS. Wrth gwrs, rydym yn cefnogi eu cais am fesurau brys i gefnogi’r gwaith atal ac i sicrhau ymchwiliad trylwyr i gamymddwyn rhywiol ym maes gofal iechyd. Wrth gwrs, rydym yn cefnogi’r cais am banel gweithredu cenedlaethol ac am ddiwygio prosesau adrodd ac ymchwilio. Mae angen i ni gael mwy o fentoriaid a modelau rôl sy’n fenywod, ac mae angen i ni gael lle diogel i gydweithwyr allu codi eu llais. Mae angen i ni gael arweiniad gwell, mwy dewr a mwy cefnogol gan ein huwch gydweithwyr. Mae’r cyfan yn rhan o egwyddorion arferion meddygol da’r Cyngor Meddygol Cyffredinol: mae angen i ni’n awr roi hyn ar waith.
Hoffem ddiolch i’r cydweithwyr sydd wedi siarad â ni am eu profiadau, y rheini a oedd yn teimlo’n barod i siarad, a’r rheini sy’n dal i deimlo’n rhy fregus i rannu eu profiadau. Rydym yn falch o bob un ohonoch. Ein rôl ni fel menywod sy’n uwch arweinwyr yn y GIG yw bod yno i chi, rhoi lle diogel i chi, ac ymddwyn fel y mentoriaid rydych chi’n haeddu eu cael. Rydym yn addo gwneud hynny.
Dyna ddigon ar yr arolygon. Dyna ddigon ar yr adroddiadau sy’n agoriad llygad, a’r straeon torcalonnus a’r cam-drin a ddaw wrth wneud swydd sydd mor bwysig i ni. Mae’n bryd newid pethau. Yn y gorffennol, roeddem wedi dysgu derbyn a chadw’n dawel, ond nid yw hynny’n ddigon da mwyach. Mewn gwirionedd, nid oedd hynny erioed yn ddigon da.
Dr Olwen E Williams OBE
Cadeirydd, Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru
Yr Is-lywydd diwethaf dros Gymru, Coleg Brenhinol y Meddygon
Dr Hilary Williams
Is-lywydd dros Gymru
Coleg Brenhinol y Meddygon
Dr Rowena Christmas
Cadeirydd, RCGP Cymru
Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol
Dr Maria Atkins
Cadeirydd, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Cymru
Is-lywydd, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion
Gyda chefnogaeth cydweithwyr, gan gynnwys:
Dr Jeanette Dickson
Cadeirydd, Academi'r Colegau Meddygol Brenhinol
Dr Sarah Clarke
Llywydd, Coleg Brenhinol y Meddygon
Yr Athro Sam Abraham
Cadeirydd cyngor Cymru, Cymdeithas Geriatreg Prydain
Dr Raghavendra Acharya
Cynrychiolydd meddygon SAS Academi Cymru
Dr Llion Davies
Cyfadran Iechyd y Cyhoedd
Dr Simon Ford
Cadeirydd Cymru, Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion
Dr Alex Gorton
Y Gyfadran Meddygaeth Fforensig a Chyfreithiol
Dr Suresh Pillai
Is-lywydd dros Gymru, Y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys
Ms Rhianon Reynolds
Llywydd, Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr
Dr Phillip Wardle
Coleg Brenhinol y Radiolegwyr
Dr John Watkins
Cyfadran Iechyd y Cyhoedd