Cymru

Mae Swyddfa Cymru Coleg Brenhinol y Meddygon wedi’i lleoli yng Nghaerdydd ac mae yma i gefnogi meddygon lleol, yn darparu digwyddiadau addysgol ac yn helpu i ddatblygu a chynnal rhwydweithiau, yn ogystal ag arwain ar bolisi ac ymgyrchoedd ar gyfer Cymru.

Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru yw: Dr Hilary Williams

Ebost: hilary.williams@rcp.ac.uk

Eich rheolwr rhanbarthol yw: Jacqui Sullivan

Ffôn: +44 (0)29 2167 4736

Ebost: jacqui.sullivan@rcp.ac.uk

Swyddfa: Y Maltings, Stryd East Tyndall, Caerdydd CF24 5EZ

Rheolwr polisi ac ymgyrchoedd Cymru yw: Lowri Jackson

Ebost: lowri.jackson@rcp.ac.uk

Uk Regional Rcp Map New Colours 09 (1)

Mae cynghorwyr rhanbarthol yn gymrodyr Coleg Brenhinol y Meddygon sy’n cael eu dewis i gefnogi eu rhanbarth. Mae’r clinigwyr hyn yn gwirfoddoli eu hamser i gefnogi gweithgareddau amrywiol ac mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn eu hystyried yn hanfodol wrth gynghori ar amrywiaeth o weithgareddau hyfforddi, addysgu a gwasanaeth sy’n berthnasol i waith meddygon.

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer cynghorydd rhanbarthol newydd i Gymru. I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i’r dudalen cynghorwyr rhanbarthol.

Mae pedwar Cynghorydd Rhanbarthol ar gyfer Cymru: 

Dr Vivek Goel
Ysbyty Brenhinol Gwent

Dr Sam Rice
Ysbyty Tywysog Philip

Dr Ben Thomas
Ysbyty Wrexham Maelor

Dr Andrew Lansdown
Ysbyty Athrofaol Cymru

Find out more
Regions6

Cymeradwyo disgrifiadau swydd

Cymeradwyo disgrifiadau swydd 

I gael cymeradwyaeth i ddisgrifiadau swydd yng Nghymru, cysylltwch â: walesjd@rcp.ac.uk 

I gael help a chyngor ynghylch y broses o gymeradwyo disgrifiadau swydd, trowch at y wybodaeth ar Pwyllgorau Ymgynghorol ar Benodiadau (AAC).

RCP Paces Sml 119 0

Events nearby

Cynrychiolwyr rhanbarthol

Mae ein rhwydwaith o gynrychiolwyr rhanbarthol yn gweithredu fel llysgenhadon lleol yn eu rhanbarth. Eu nod yw cynrychioli anghenion a safbwyntiau aelodau Coleg Brenhinol y Meddygon ar wahanol gamau yn eu gyrfa. 

Cliciwch y cwymplenni isod i ddysgu pwy sy’n cynrychioli eich rhanbarth, ac i weld unrhyw swyddi gwag.

Os hoffech chi gysylltu ag unrhyw gynrychiolwyr rhanbarthol, cysylltwch â’ch swyddfa ranbarthol.

Ar hyn o bryd mae swydd wag ar gyfer cynrychiolydd i Gymru.  Os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Mae rhagor o wybodaeth am waith Pwyllgor Ymgynghorwyr Newydd Coleg Brenhinol y Meddygon ar gael yma, neu cysylltwch â newconsultants.committee@rcp.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Eich cynrychiolwyr hyfforddeion yng Nghymru yw:

Dr Alexandra Burgess

Dr Sacha Moore

Gallwch ddysgu rhagor am waith Pwyllgor Hyfforddeion Coleg Brenhinol y Meddygon yma

Eich cynrychiolydd rhwydwaith arbenigwyr cyswllt ac arbenigol (SAS) yw:

Dr Ruford Sequeira

Mae rhagor o wybodaeth am waith y rhwydwaith SAS ar gael yma.

Eich cynrychiolwyr rhwydwaith myfyrwyr a meddygon sylfaen Cymru (SFDN) yw:

Jack Jones

Nile Saunders

Mae rhagor o wybodaeth am waith y rhwydwaith SFDN ar gael yma.